Datganiad Prif Weinidog Cymru ar ymestyn clo coronafeirws
Welsh Government / Llywodraeth Cymru Institution:Senedd Cymru – Welsh Parliament
Make a clip
CC BY 3.0 · Welsh Government / Llywodraeth Cymru Institution:Senedd Cymru – Welsh Parliament
Up to 60 seconds, at most the picture size of the copy it is cut from. The clip carries the title, the credit, the licence and a link back here. It is made in this browser, and nothing is sent to this site.
Or send the moment itself: https://invisiblenetwork.ai/watch/archive/commons/98953855?play=1&t=0
Parts
About
Datganiad Prif Weinidog Cymru ar ymestyn y cyfnod clo.
Testun cyfan: Yn gynharach y prynhawn yma roeddwn i ynghyd â Phrif Weinidog yr Alban a Gogledd Iwerddon yn rhan o gyfarfod o bwyllgor Cobra gyda llywodraeth y DU. Cadarnhaodd pob un ohonom ein penderfyniadau y dylai'r cyfyngiadau cyfredol ar symud i amddiffyn y GIG, ac felly i achub bywydau barhau am dair wythnos arall. Mae hyn yn seiliedig ar wybodaeth gwyddonol arbenigol o'r data diweddaraf ac ar yr achosion o firws corona ledled y Deyrnas Unedig. Rwy'n gwybod bod y tair wythnos ddiwethaf wedi bod yn anodd iawn i lawer o bobl.
Hoffwn ddiolch i bawb yng Nghymru am y ffordd y mae pob un ohonom wedi delio â'r amgylchiadau heriol iawn yma. Ac er ein bod wedi gweld rhai arwyddion cadarnhaol yn y data ni allwn ac ni ddylem fod yn rhy fodlon ynglyn a'r firws.
Mae llawer mwy o fywydau yn y fantol o hyd ac mae gormod o deuluoedd eisoes wedi colli anwyliaid. Mae'r penderfyniad i ymestyn y broses gloi yn un anodd ac ni ddylid ei gymeryd yn ysgafn; ond ni allwn fentro taflu’r holl waith a wnaethom yma yng Nghymru dros yr wythnosau diwethaf trwy godi’r cyfyngiadau hynny yn rhy fuan. Gallai hynny olygu mwy o farwolaethau a hyd yn oed mwy o effaith ar swyddi a bywoliaethau pobl. Bydd ein dull yn parhau i gael ei yrru gan y wyddoniaeth a byddwn yn gwneud y penderfyniadau cywir ar yr adeg iawn fel ein bod gyda'n gilydd yn mynd ymlaen i amddiffyn ein gwasanaeth iechyd ac felly i achub bywydau.
- Archive
- Wikimedia Commons, in Wikimedia Commons
- Licence or status
- CC BY 3.0, as the Wikimedia Commons states it.
- Rights statement
- Creative Commons Attribution 3.0
- Credit
- Welsh Government / Llywodraeth Cymru Institution:Senedd Cymru – Welsh Parliament
- Who can watch
- The archive gives no rating. Invisible Network shows it to Teens profiles and older, judged from its collection and subjects. How films are placed