# Datganiad Prif Weinidog Cymru ar ymestyn clo coronafeirws

Datganiad Prif Weinidog Cymru ar ymestyn y cyfnod clo.

Testun cyfan: Yn gynharach y prynhawn yma roeddwn i ynghyd â Phrif Weinidog yr Alban a Gogledd Iwerddon yn rhan o gyfarfod o bwyllgor Cobra gyda llywodraeth y DU. Cadarnhaodd pob un ohonom ein penderfyniadau y dylai'r cyfyngiadau cyfredol ar symud i amddiffyn y GIG, ac felly i achub bywydau barhau am dair wythnos arall. Mae hyn yn seiliedig ar wybodaeth gwyddonol arbenigol o'r data diweddaraf ac ar yr achosion o firws corona ledled y Deyrnas Unedig. Rwy'n gwybod bod y tair wythnos ddiwethaf wedi bod yn anodd iawn i lawer o bobl.

Hoffwn ddiolch i bawb yng Nghymru am y ffordd y mae pob un ohonom wedi delio â'r amgylchiadau heriol iawn yma. Ac er ein bod wedi gweld rhai arwyddion cadarnhaol yn y data ni allwn ac ni ddylem fod yn rhy fodlon ynglyn a'r firws.

Mae llawer mwy o fywydau yn y fantol o hyd ac mae gormod o deuluoedd eisoes wedi colli anwyliaid. Mae'r penderfyniad i ymestyn y broses gloi yn un anodd ac ni ddylid ei gymeryd yn ysgafn; ond ni allwn fentro taflu’r holl waith a wnaethom yma yng Nghymru dros yr wythnosau diwethaf trwy godi’r cyfyngiadau hynny yn rhy fuan. Gallai hynny olygu mwy o farwolaethau a hyd yn oed mwy o effaith ar swyddi a bywoliaethau pobl. Bydd ein dull yn parhau i gael ei yrru gan y wyddoniaeth a byddwn yn gwneud y penderfyniadau cywir ar yr adeg iawn fel ein bod gyda'n gilydd yn mynd ymlaen i amddiffyn ein gwasanaeth iechyd ac felly i achub bywydau.

- Kind: Short
- Year: 2020
- Runtime: 2 min
- By: Welsh Government / Llywodraeth Cymru Institution:Senedd Cymru – Welsh Parliament
- Archive: [Wikimedia Commons](https://commons.wikimedia.org/wiki/File:Datganiad_Prif_Weinidog_Cymru_ar_ymestyn_clo_coronafeirws.webm)
- Licence or status: [CC BY 3.0](https://creativecommons.org/licenses/by/3.0) (as the archive states it)
- Credit: Welsh Government / Llywodraeth Cymru Institution:Senedd Cymru – Welsh Parliament
- Who can watch: Teens profiles and older (the archive gives no rating; placed by Invisible Network from its collection and subjects)

[Watch now](https://invisiblenetwork.ai/watch/archive/commons/98953855?play=1)
