# Neges Prif Weinidog Cymru i bobl Cymru - 10 May 2020

Neges Prif Weinidog Cymr, Mark Drakeford, i bobl Cymru - 10 May 2020.

Prif bwyntiau:

Heno, mae'r Prif Weinidog wedi nodi'r mân newidiadau yn y rheolau clo yn Lloegr, dros y 3 wythnos nesaf. Nodais y newidiadau cymedrol i'r rheoliadau aros gartref yma yng Nghymru ddydd Gwener; bydd y rhain yn dod i rym brynhawn yfory. Yma yng Nghymru byddwn yn newid y rheoliadau fel y gall pobl ymarfer yn amlach a chaniatáu i ganolfannau garddio agor os gallant gydymffurfio â rheoliadau pellhau cymdeithasol.

NID yw ein cyngor wedi newid yng Nghymru. Lle bynnag y gallwch, dylech aros gartref. Os oes angen i chi adael cartref, ar gyfer gwaith, ymarfer corff neu siopa, dylech aros yn lleol ac aros yn effro. Bydd y ffordd yr ydym yn ymddwyn dros yr wythnosau i ddod yn parhau i gael effaith ddwys ar ein GIG a'n gallu i achub bywydau.

- Kind: Short
- Year: 2020
- Runtime: 2 min
- By: welshgovernment Institution:Senedd Cymru – Welsh Parliament
- Archive: [Wikimedia Commons](https://commons.wikimedia.org/wiki/File:Neges_Prif_Weinidog_Cymru_i_bobl_Cymru_-_10_May_2020.webm)
- Licence or status: [CC BY 3.0](https://creativecommons.org/licenses/by/3.0) (as the archive states it)
- Credit: welshgovernment Institution:Senedd Cymru – Welsh Parliament
- Who can watch: Teens profiles and older (the archive gives no rating; placed by Invisible Network from its collection and subjects)

[Watch now](https://invisiblenetwork.ai/watch/archive/commons/98862346?play=1)
