# Natura 2000 - Madfallod Dwr Cribog.webmhd

Madfallod Dŵr Cribog yw'r math mwyaf anghyffredin o'r madfallod a geir ym Mhrydain. Maent mor anghyffredin eu bod wedi cael eu dynodi yn rhywogaeth a warchodir Ewropeaidd. Yng Nghymru, mae 5 safle wedi cael eu dynodi'n Ardaloedd Cadwraeth Arbennig fel rhan o rwydwaith Natura 2000 i ddiogelu cynefinoedd y dreigiau bach hyn, ac mae gwaith ar y gweill ar y safleoedd hyn i reoli'r cynefin ac amddiffyn y rhywogaethau. Mae Rhaglen LIFE Natura 2000 wedi cynhyrchu cynlluniau gweithredu â chostau ar gyfer pob safle Madfall dŵr cribog Natura 2000 yng Nghymru, gan gynllunio i'r dyfodol a helpu i sicrhau arian hollbwysig i'r amffibiaid anhygoel hyn.

- Kind: Short
- Year: 2016
- Runtime: 2 min
- By: Natural Resources Wales
- Archive: [Wikimedia Commons](https://commons.wikimedia.org/wiki/File:Natura_2000_-_Madfallod_Dwr_Cribog.webmhd.webm)
- Licence or status: [CC BY 3.0](https://creativecommons.org/licenses/by/3.0) (as the archive states it)
- Credit: Natural Resources Wales
- Who can watch: Teens profiles and older (the archive gives no rating; placed by Invisible Network from its collection and subjects)

[Watch now](https://invisiblenetwork.ai/watch/archive/commons/48402843?play=1)
